Taith gerdded noddedig 27km yn ôl troed y Siartwyr
Sad, 14 Tach
|Gwesty'r Westgate
Gan ddechrau yn y Coed Duon, bydd grŵp o wirfoddolwyr yn cerdded y llwybr a gymerodd llawer o Siartwyr ym 1839 - gan godi arian ar gyfer elusen Our Chartist Heritage ar hyd y ffordd.
Amser a lleoliad
14 Tach 2020, 09:00
Gwesty'r Westgate, Commercial St, Casnewydd NP20 1JL, DU
Ynglŷn â'r digwyddiad
Ar ddydd Sadwrn y 14eg o Dachwedd bydd grŵp bychan o wirfoddolwyr yn gorymdeithio yn ôl troed y Siartwyr, gan ddechrau yn y Coed Duon a gorffen 27km a thua 7 awr yn ddiweddarach yng Ngwesty’r Westgate. Bydd rhannau diweddarach mewn tywyllwch a bydd y grŵp yn cynnau ffaglau i gofio’r 22 a fu farw yn y frwydr dros ddemocratiaeth ym 1839.
Bydd cerddwyr yn codi arian ar gyfer elusen leol Our Chartist Heritage. Mae'r holl elw yn mynd i ariannu digwyddiadau yn y dyfodol, rhaglenni addysg a Gŵyl Rising Casnewydd 2021. Eisiau noddi cerddwr? Gallwch ddefnyddio Gofundme ar y ddolen ganlynol - https://www.paypal.com/gb/fundraiser/charity/3516462