Cyrchfan Cyfiawnder | Hanes yn y Hwb
пн, 02 груд.
|Newport
Sgriniad o ‘Cyrchfan Cyfiawnder’ cynhyrchiad S4C. Yn cael ei gyflwyno gan y Cyfarwyddwr Colin Thomas, y Cynhyrchydd Angela Graham a Sian Gale | Screening of S4C production 'Cyrchfan Cyfiawnder'. Presented by Director Colin Thomas, Producer Angela Graham and Sian Gale
Time & Location
02 груд. 2024 р., 18:00 – 20:00
Newport, 170 Commercial St, Newport NP20 1JN, UK
About the Event
Deng mlynedd ar hugain yn ôl mynnodd Casnewydd goffaú Gwrthryfel y Siartwyr ym 1839 yn gant a hanner mlwydd oed mewn ffordd ryfeddol drwy lwyfannu opera werin “The Forbidden Hymn”. Wedi’i gyfarwyddo gan Michael McCarthy, denodd y prosiect cymunedol uchelgeisiol hwn blant ysgol, corau a bandiau pres o’r ardal. Bu’r ddrama/ ddogfen ar gyfer S4C a ddeilliodd, “Cyrchfan Cyfiawnder”, yn dilyn y cynhyrchiad o’r ymarferion cynnar, gan arwain at ail-greu ar raddfa lawn y gwrthdaro gwaedlyd o flaen Gwesty’r Westgate, Casnewydd. Dyma le bu dinasyddion blin a byddin Prydain yn ymladd dros safbwyntiau cwbl wrthwynebol ar ddyfodol ein cenedl.
Manteisiwch ar y cyfle i weld y rhaglen Gymraeg hon a gyflwynwyd gan ‘cofiadirwr y werin’ – y diweddar Athro Gwyn Alf Williams, ffigwr allweddol yn natblygiad cyflwyno hanes arloesol ar y teledu. Bydd dangosiad arbennig am 6 y.h. ar ddydd Llun, Rhagfyr yr 2il yng Nghanolfan y Newport Rising, 170…